Croeso i Wefan UMCA
Croeso i wefan UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) Undeb Gymreig yr Undeb sydd yn arlwyo ar gyfer myfrwyr Cymraeg a dysgwyr yn Aberystwyth. Ers ei sefydlu ym 1973, mae UMCA wedi tyfu i fod yn fudiad dylanwadol iawn, sy’n darparu pob math o wasanaethau er mwyn eu haelodau, o adloniant, i ymgyrchu dros ddatblygiad defnydd yr iaith Gymraeg o fewn y brifysgol a thu hwnt; o wneud yn fawr o'ch amser yn Aber, i gynnig cymorth gydag unrhyw broblem sy’n poeni’r aelodau.
Mynnwn Addysg Gymraeg!
Mae'n warth nad ydym yn derbyn addysg drwy ein priod iaith. Cawsom ein haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg gydol ein cyfnod yn yr ysgol; ond wrth gyrraedd y Brifysgol cawn ein hamddifadu o'n hawl sylfaenol fel Cymry Cymraeg i dderbyn ein haddysg yn Gymraeg. Er ei bod hi'n bosibl astudio rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid cofio mai yn y lleiafrif ydynt ac fe anwybyddir y Cymry Cymraeg yn llwyr mewn rhai adrannau. Nid yw un seminar fan hyn a fan draw yn ddigonol. Ni allwn fel Cymry, eistedd yn ol a bodloni ar y sefyllfa tra bod yr anghyfiawnder hwn yn bod. Dim ond trwy fynnu ein hawl i addysg Gymraeg heddiw y gallwn sicrhau tegwch i'r Cymry yn y dyfodol.
Mae myfyrwyr Cymraeg dan anfantais oherwydd fod rhaid iddyn nhw newid iaith eu haddysg wrth gyrraedd y Brifysgol. Dydyn nhw ddim am dderbyn y lol sarhaus sy'n honni nad yw'r Gymraeg yn gyfrwng digon safonol i'r byd academaidd. Rwtsh pur yw hyn!

- Rydym am weld diwedd ar y sarhad sydd yn erbyn y Gymraeg yn ein Prifysgolion. Yn enwedig o ystyried y nifer pitw o fodiwlau a chyrsiau y medrwn ei astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Amlygir yr anghyfartaledd hwn wrth ystyried mai dim ond 0.5% o gyllideb Addysg Uwch Cymru sy'n cael ei wario ar Addysg Gymraeg!
- Rydym am fynnu'r hawl i astudio drwy'r Gymraeg. Credwn mai dim ond drwy gyfrwng ein hiaith yn unig y gallwn greu Cymru ddwyieithog.
- Galwn am Goleg Ffederal Cymraeg-strwythur newydd a fyddai'n sicrhau datblygu adnoddau trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn rhoi sail gadarn i adeiladu ar y ddarpariaeth. Cred UMCA fod angen newid radical a sefydlu Coleg Ffederal fyddai'n sicrhau ffyniant Addysg Gymraeg yn y sector Addysg Uwch. Byddai gan y Coleg gangen mewn sawl Sefydliad Addysg Uwch ar draws Cymru gan sicrhau na fyddem yn creu rhyw fath o ghetto. Byddai strwythur o'r fath yn sicrhau y cai cyllid ei wario yn y modd gorau posib er budd datblygu Addysg Gymraeg mewn ystod mor eang a phosib o bynciau.
