Cylchgrawn Chwyldroadol UMCA!

 

Does neb yn saff!


Unrhyw stori, cwot, cop-off neu hynt a helyntion eich ffrindiau, cofiwch ei yrru o mewn!

Yr Utgorn yw'r cylchgrawn sydd yn crynhoi'r holl straeon a chop-offs sydd yn digwydd mewn tymor ymysg aelodau umca! Yn wir, mae na fwy o gyhuddo a phardduo enwau yn yr utgorn na sydd yn digwydd mewn rhaglen cyffroes o 'Bobl y Cwm'!


 

Os da chi yn y flwyddyn gyntaf da chi'n siwr o gael clywed bod 'na gylchgrawn Utgorn yn cael ei dylunio 3 gwaith bob blwyddyn academaidd. Be ydi Utgorn yn y bon ydi cyfle i glywed hanesion myfyrwyr Cymraeg dros y tymor. Hynny yw unrhyw sgandals, cop-offs ayyb!

Er mwyn i'r cylchgrawn cyntaf (a fydd yn cael ei gyhoeddi ym Mis Rhagfyr) fod yn llwyddianus dwi angen eich help. Dwi yn cael clywed llawer o hanesion am stiwdants yn gwneud petha gwirion, ond dwisho clywed llawer mwy!

Rheswm dwi'n gyrru e-bost wan ydi efallai byddwch chi wedi anghofio am hanesion wsos y glas etc erbyn diwedd Tachwedd / cychwyn rhagfyr. Felly os
fyddwch mor garedig a gyrru unrhyw straeon doniol, lwcaleics doniol neu
cop-offs (fydd na 'special mention' ir slag a'r ci mwyaf) i mi drwy e-bost
iig7@aber.ac.uk mi fyddwn i'n ddiolchgar iawn.

A cofiwch yrru! Mwy na thebyg fydd na rhywun yn gyrru rywbeth amdano chi
beth bynnag felly s'gena chi ddim byd i golli!!! O ddifri, os dwi ddim yn
cael digon o sdwff, fyddai yn gorfod gwneud pethau fyny, a da chi ddim
eisiau hynny ddigwydd!

Hwyl,
Ioan Gwil


Dyma Linc i'r utgorn diwethaf bu rhaid i chi mewnlogi i'ch cyfrif Prifysgol gyntaf:


https://webmail.aber.ac.uk/squirrelmail/src/download.php?startMessage=1&passed_id=4843&mailbox=INBOX&ent_id=2&passed_ent_id=0&where=FROM&what=caw6


 


'