Rhestr destunau Eisteddfod Ryng-golegol 2010

Cystadleuthau Llwyfan:  (Mae modd i ddau o bob Coleg gystadlu lle nodir * wrth rif  cystadleuaeth)

1. *Unawd offerynnol (gan gynnwys piano) – Hunanddewisiad

     1.1. Rhuban glas offerynnol

2. *Unawd alaw werin – Hunanddewisiad

3. Llefaru ‘siriys’ unigol – Hunanddewisiad (dim hirach na 5 munud)

4. *Cyflwyniad theatrig digri - Hunanddewisiad

5. Grŵp llefaru – unrhyw waith gan Myrddin ap Dafydd

6. *Unawd cerdd dant – Hunanddewisiad

7. *Unawd bechgyn – Hunanddewisiad

8. *Unawd merched – Hunanddewisiad

9. *Unawd sioe gerdd - Hunanddewisiad

      9.1 Rhuban glas lleisiol – i’r gorau yn y dair cystadleuaeth uchod

10. Deuawd agored neu ddeuad gerdd dant – Hunanddewisiad.

11. Ensemble (offerynnol)– Hunanddewisiad

12. Ensemble Lleisiol unrhyw gyfrwng

13 *Clocsio unigol (ferch/fachgen) – hunan ddewisiol

14. Stepio i ddau/ddwy neu fwy – Hunanddewisiad

15. Grŵp dawnsio gwerin – Hunanddewisiad

16. Grŵp dawnsio creadigol / disgo – Hunanddewisiad

17. Deuawd doniol – Hunanddewisiad

18. Sgets – Hunanddewisiad, (dim hirach na 5 munud)

19. Meimio – i unrhyw gân Gymraeg

20. Bing-bong – Mae pawb yn cymryd eu tro i gyfansoddi penillion ar y pryd. Yr enillydd yw’r un sy’n gallu dal i fynd pan fo pawb arall wedi methu meddwl am bennill arall. Un cynrychiolydd o bob prifysgol.

21. Côr bechgyn – Cerddwn Ymlaen

22. Côr merched –Cariad bydd yn addfwyn heno

23. Cor Cymysg - Byddaf i yn gysgod ym mhob storom

  Darnau ar gyfer y côr SSA, TTB, SATB:

Côr bechgyn – Cerddwn Ymlaen ‘Dafydd Iwan’


Côr merched – Cariad fydd yn addfwyn heno’ allan o ‘Y Cylch’ Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins

Côr cymysg – Byddaf i yn gysgod ym mhob storom (Like a bridge over trouble water) Simon & Garfunkel. Cyfieithiad gan Mererid Hopwood


Testunau Gwaith Cartref: (Dyddiad Cau 5ed o Chwefror)

 

1. Barddoniaeth

 

1.1 Y Gadair - Cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell: 'Torri'n rhydd'

 

1.2 Englyn - 'Gwaed'

 

1.3 Englyn digri - 'Twitter'

 

1.4 Parodi - 'Far Rockaway' gan Iwan Llwyd

 

 1.5 Englyn coch - 'Un noson.'

 

1.6 Cerdd ddychan - i unrhyw sefydliad Cymreig

 

1.7 Limrig – Un noson ‘go feddwol yn Aber………….

 

2. Rhyddiaith

 

2.1 Y Goron - Darn o ryddiaith greadigol: 'Cyrraedd' neu 'Ymadael'

  

2.2 Stori fer - 'Talu'r pwyth'

 

2.3 Blog - yn ymateb i wythnos ym mywyd Cymru (o leiaf 5 postiad)

 

2.4 Llên meicro - 3 darn ar y thema 'rhyfel'

 

2.5 Ymson - ymson gofalwr neuadd breswyl

 

2.6 Dyddiadur - 'Wythnos yn yr Eisteddfod'

 

2.7 Brawddeg - P.A.N.T.Y.C.E.L.Y.N

 

2.8 Portread - unrhyw wleidydd

 

3. Dysgwyr

 

 3.1 Stori fer -  'Camgymeriad'

 

3.2  Cerdd - 'Croesi'r bont'

 

3.3 Dyddiadur neu ymson Cymro neu Gymraes enwog

 

3.4 Cerdyn post - o unrhyw wlad dramor

 

 4. Celf

 

 4.1 Y Fedal - Darlun: 'Gaeaf'

 

4.2 Ffotograffiaeth - llun i gyd-fynd ag unrhyw gerdd Gymraeg (dylid cynnwys y

gerdd)

 

5. Drama

 

5.1 Y Fedal - Drama ddwy act na chymer fwy nag 20 munud i'w pherfformio: 'Y daith'


Postiwch eich cyfansoddiadau i'r cyfeiriad yma:

Swyddfa UMCA,
Neuadd Pantycelyn,
Penglais
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY233BX

umca@aber.ac.uk